
Dwi’n cynnig gwersi wyneb yn wyneb neu rithiol.
Yn gwasanaethu Gogledd Cymru, Cheshire a Shropshire.

Bu Gerallt Breese Richards yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd Llanelwy cyn astudio Peirianneg Drydanol ym Mhrifysgol Bangor. Treuliodd gyfnod fel athro mathemateg a gwyddoniaeth cyn symud i Lundain i weithio gyda chwmni TG. Gweithiodd mewn sawl maes yn y diwydiant technoleg i gwmniau fel BT, IBM, Reuters a Tesco lle bu’n rhan o’r tîm datblygu system siopa ar lein. Yn 2005 daeth yn ôl i Gymru gyda’i deulu ar ôl cael swydd yn Ysgol y Berwyn y Bala lle bu’n athro mathemateg a phennaeth blwyddyn tan i’r ysgol gau yn 2019. Bu’n diwtor mathemateg Tgau a Safon Uwch yn ysgol arbennig Aran Hall lle bu’n gweithio gyda grwpiau bach a disgyblion unigol. Mae ganddo hefyd bortffolio o waith annibynnol tu allan i ysgolion gan gynnwys arwain cyrsiau ailhyfforddi ar gyfer y gweithle a rhifedd i oedolion yng Ngholeg Llandrillo. Bu’n diwtor mathemateg llwyddiannus am 20 mlynedd.
Mae’n mwynhau seiclo a mynydda yn ei amser hamdden.

Gwybodaeth drylwyr am y cymhwyster TGAU ar bob haen.
Llwyddiannau cyson dros y blynyddoedd.
Adnoddau pwrpasol wedi’u teilwra i anghenion myfyrwyr unigol.

Tiwtor llwyddiannus un i un am 20 mlynedd.
Gwersi wyneb yn wyneb neu rithiol.
Gwersi ar-lein yn ddefnyddio Tabled Ysgrifennu Digidol Wacom Intuos Pro
(Saesneg yn unig...)
"For my Electrical HNC, I had to brush up on my maths as it was a level 4 course, and I hadn’t studied the subject since GCSE level. Mr Richards guided me through any areas which needed improving like transpositioning, and especially some of the A level subjects I had no previous knowledge of such as complex numbers. I have since passed all of the math modules on the course."
Cillian Hughes
"Mae fy merch, sydd bellach yn ddisgybl blwyddyn 11, wedi bod yn cael gwersi mathemateg, un i un, ar lein gyda Gerallt ers iddi fod ym mlwyddyn 8. Yn ystod y cyfnod hwn gwelsom gynnydd sylweddol yn ei hyder gyda’r pwnc. Roedd Mathemateg yn bwnc roedd hi wastad wedi cael trafferthion hefo ond gydag athro amyneddgar sydd wastad yn llwyddo i esbonio cysyniadau mathemategol cymhleth mewn ffyrdd gweledol a chlir - fe ddaeth hi i ddeall a mwynhau’r pwnc!
Rydw i yn hynod ddiolchgar I Gerallt am ei chefnogi hi bob cam o’r ffordd hyd at y llinell derfyn ac am ei helpu i gyrraedd ei photensial o dderbyn gradd B yn ei arholiad TGAU Mathemateg yn ddiweddar
Heb os nac oni bai mi fuaswn i yn argymell Gerallt I unrhyw riant sy’n chwilio am athro mathemateg TGAU brwdfrydig, profiadol a chymwys ar gyfer eu plentyn. Mae ganddo ffordd dda hefo bobl ifanc a gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddisgwyliadau’r cwricwlwm drwy gyfrwng Y Gymraeg a’r Saesneg."
Lowri Foulkes (rhiant)
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i Mr Gerallt Richards am roi gwersi ychwanegol i'r ferch cyn eu haroliadau TGAU. Mwynhaodd y gwersi yn fawr iawn gydag ef ac roedd y gallu ganddo i symleiddio ac egluro rhannau anoddaf y cwricwlwm mathemateg gan sicrhau dealltwriaeth lawn. Tyfodd ei hyder yn y pwnc. Roedd Mr Gerallt Richards yn brydlon a phroffesiynol iawn bob amser, rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei wasanaeth."
Diolch
Teleri Pugh, Llanuwchllyn
Gyrrwch e-bost am fwy o fanylion